|
Unedau Arbennig
Uned Addysg Arbennig
Mae'r Uned Arbennig hon i'r plant hynny sy'n cael anhawster dysgu. Ychydig yw nifer y plant a gaiff fynd i'r dosbarth hwn a golyga hyn fod y plant yn cael llawer o sylw arbennig yn y boreau. Caiff y disgyblion sylw unigol arbennig yn yr uned ac mae cynllun gwaith unigol wedi ei baratoi ar eu cyfer er mwyn eu cynorthwyo gyda'i datblygiad. Mae dau o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi gwneud cynnydd cystal yn ddiweddar fel eu bod wedi mynd yn ôl i'r prif lif yn llawn amser. Ymuna oll o ddisgyblion yr uned â'r dosbarthiadau prif lif yn y prynhawn.
Uned Feithrin
Mae 35 o blant yn mynychu'r Uned Feithrin, sy'n rhan o'r ysgol, yn ddyddiol. Cynhelir dwy sesiwn gyda 20 o blant yn mynychu'r sesiwn foreol a 15 o blant sesiwn y prynhawn. Nod yr Uned Feithrin yw paratoi'r disgyblion ar gyfer mynychu'r ysgol, yn llawn amser, yn y mis Medi canlynol, drwy roi iddynt y sgiliau sylfaenol. Mae'r Uned Feithrin hefyd, fel gweddill yr ysgol yn dilyn cynllun o themâu tymhorol ac yn dilyn y cynllun addysg dan 5 fel yn y Dosbarth Derbyn. Mae llawer o waith ymarferol yn cael ei wneud gyda'r disgyblion yn yr Uned Feithrin. Byddant yn dysgu a chael amrywiol brofiadau drwy chwarae. Maent yn cael gwrando ar lawer o straeon ac yn cael cyfle i ddysgu a chanu llawer o ganeuon. Mae gwaith cychwynnol yn cael ei wneud hefyd a sylfaeni'n cael eu gosod ar gyfer eu cael i ddechrau ysgrifennu.
|
|