Patrwm Gwaith
Ceisir sicrhau bod yr addysg a ddarperir yn hybu datblygiad moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol pob disgybl a bod natur y cwricwlwm cyflawn yn wahaniaethol, eang a chytbwys. I ymateb â'r gofynion hyn bydd trefniadaeth y dosbarth yn hyblyg; weithiau darperir gwaith ar sail oedran plant, dro arall bydd y plant o ystod oedran, sy'n rhychwantu mwy nag un blwyddyn ysgol yn cydweithio ar yr un dasg. Dysgir y plant fel uned ddosbarth fydd o dan ofal un athrawes/athro sefydlog.
Yn ôl awgrym Cyngor Cwricwlwm Cymru cynllunir y cwricwlwm ar sail wyth agwedd ar ddysgu gan gynnwys y pynciau craidd a sylfaen. Nodir cyfraniad y meysydd hyn mewn dull systematig yng nghofnodion yr athro/athrawes a'r gweithgareddau i blant yn draws ddisgyblaethol drwy ddilyn themâu penodol.
|