|
|
Croeso i Dudalen Gartref Ysgol Glancegin.
Lleolir Ysgol Glancegin ar gyrion Dinas Bangor, Gwynedd. Mae'r Ysgol yn Ysgol Gynradd Sirol (Babanod ac Iau), ac yn ysgol ddyddiol, ddwyieithog, gyd-addysgol ble yr addysgir 254 o ddisgyblion 3-11 oed. Mae 13 o athrawon a dwy weinyddes feithrin yn yr ysgol, ar hyn o bryd, yn ogystal ag Uned Feithrin ac Uned Anghenion Addysgol Arbennig. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal Maesgeirchen, Bangor gan geisio chwarae rhan allweddol ym mywyd y gymuned.
Credaf mai'r ysgol effeithiol yw'r un sydd yn defnyddio adnoddau'r gymdeithas honno i gyfoethogi profiadau ac addysg y plant. Mae'r cydberthynas yma rhwng yr ysgol a'r gymuned yn rhan allweddol o waith yr ysgol. Ein nod yw darparu addysg o safon dda a fydd o werth i'r plant, ble mae cyfraniad pob unigolyn yn bwysig. Fe geisiwn greu awyrgylch hapus a chroesawgar a fydd yn galluogi'r plant i ddysgu'n effeithiol, ymateb yn bositif a datblygu'n aelodau cyfrifol o gymdeithas. Ar yr un pryd mae lles personol pob unigolyn yn bwysig i ni.
Gyda staff brwdfrydig o gofalgar gallwn gynnig profiadau addysgol gwerthfawr i'r plant.
W. D. Parry
PRIFATHRO
|
|