|
Sefydlwyd yr Eglwys gan Deiniol Sant yn 548 O.C. a hi yw un o'r Eglwysi Hynaf yn y wlad. Mae'r adeilad yn werth ei weld gyda'i ffenestri mawr lliwgar a hanes i bob un ohonynt. Oddi mewn i'r Gadeirlan gwelir beddfaen Owain Gwynedd, un o dywysogion enwocaf Gwynedd.
Mae Dinas Bangor yng Ngwynedd, Gogledd Cymru ac mae'r ardal oddi amgylch Bangor, sy'n cynnwys Llanberis a Bethesda, ar gwr Parc Cenedlaethol Eryri ac yno mae'r mynyddoedd, gan gynnwys y mynydd uchaf yng Nghymru sef Yr Wyddfa sydd 1085 medr uwchben lefel y môr. Yr ochr arall i'r Afon Menai i Fangor a Chaernarfon gwelir Ynys Môn a gyfeirir ati fel 'Môn Mam Cymru,' ac a gysylltir â'r tir mawr gan ddwy bont - Pont Menai a adeiladwyd gan Thomas Telford ym 1826 a Phont Britannia a gynlluniwyd gan Robert Stevenson.
Rhyw saith milltir o Fangor mae tref Frenhinol Caernarfon. Y prif atyniad i Gaernafon yw'r Castell. Adnabyddir Castell Caernarfon fel y castell enwocaf yng Nghymru ac mae'n sefyll yng nghanol un o'r trefi mwyaf Cymreig yng Nghymru. Cafodd y Castell ei adeiladu yn 1283 a chymerwyd 37 o flynyddoedd i'w adeiladu. Edward I a gynlluniodd y Castell i gadarnhau ei fuddugoliaeth dros Llywelyn Tywysog Cymru. Chwe chan mlynedd wedi adeiladu'r Castell fe'i defnyddiwyd i gynnal seremoni arwisgo Tywysog Edward ym 1911, ac ar Orffennaf 1af, 1969, arwisgwyd y Tywysog presennol, sef y Tywysog Siarl, gan ei fam (Brenhines Elizabeth II sef brenhines presennol Prydain), yn Dywysog Cymru.
Ar Faes Caernarfon gwelir cofgolofn y Cyn-Brifweinidog David Lloyd George o Lanystumdwy yn Eifionydd. Pan oedd yn 27 oed cafodd ei wneud yn Aelod Seneddol Ceidwadol, dros Fwrdeistrefi Caernarfon, yn Is-etholiad 1890, a bu yn y swydd hon am 55 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ei wneud yn Brif Weinidog o 1916 hyd 1922.
|
|