|
cynigiodd yr Arglwydd Penrhyn werthu 70 acer o dir, a oedd yn perthyn i Fferm Maesgeirchen, ac a oedd wedi ei lleoli ar yr ochr ddeheuol o Fynydd Bangor, iddynt.
Ar y cychwyn roedd gwrthwynebiad mawr i'r datblygiad yma, gan fod y tir yma wedi ei leoli ar ochr arall i Fynydd Bangor ac mor bell o ganol y ddinas. Y teimladau oedd y byddai adleoli yn y fan honno fel eu troi allan o'r ddinas. Ond ar 15 Mehefin 1936 penderfynwyd, o un bleidlais, i adeiladu tai ar safle Maesgeirchen. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Stâd Maesgeirchen, ar unwaith, ac erbyn 1939 roedd 304 o dai wedi eu hadeiladu ar Penrhyn Avenue. Gadawyd tir gwag ynghanol y stâd ar gyfer adeiladu siopau a chanolfan gymdeithasol. Ym 1952 adeiladwyd Capel gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ond, yn anffodus, mae'r capel bellach wedi cau ond defnyddir yr adeiladau fel Canolfan Ieuenctid. Ym 1958 adeiladwyd Eglwys y Groes yno gan yr Eglwys yng Nghymru. Yna rhwng 1953-58 adeiladwyd 238 o dai yno, a rhwng 1967-68 cwblhawyd 102 o dai, a elwir yn Tan-y-Bryn, ynghyd ag Ysgol Glancegin. Erbyn 1968 roedd 3,000 o bobl yn byw ar y stâd. Rhwng 1983 a 1998 adeiladwyd y tai diweddaraf yno, sef y rhan a elwir yn Tan y Coed, sydd yn ffinio â thir yr ysgol. O'r cychwyn cyntaf mae dwy siop wedi bod yn rhan o'r stâd ac mae'r ddwy yma yn dal i fodoli heddiw, ar eu newydd wedd, ynghyd â siop sglodion, siop bapur newydd, siop trin gwallt a swyddfa bost.
Pan adeiladwyd Stâd Maesgeirchen gwyrodd y Cyngor oddi wrth ei reol arferol o roi enwau Cymraeg ar strydoedd ac enwyd y stryd a oedd yn cysylltu'r stâd â'r A5 yn Penrhyn Avenue, fel parch tuag at Yr Arglwydd Penrhyn, a werthodd y tir iddynt. Enwau eraill a roddwyd ar strydoedd y stâd oedd Greenwood Avenue, ar ôl Arthur Greenwood, a oedd yn Weinidog Iechyd rhwng 1929 a 1931, Kinglsley Avenue, ar ôl Kingsley Wood, a oedd yn Weinidog Iechyd yn y cyfnod yr adeiladwyd y tai yma. Agorwyd y stâd yn swyddogol, gan Yr Arglwydd Penrhyn yn Nhachwedd 1937 ac wrth adeiladu'r stâd yma crewyd maestref dosbarth gweithiol a oedd ar wahân i ddinas Bangor.
|
|