|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Lleolwyd Ysgol Glancegin rhwng môr a mynydd sef rhwng yr Afon Menai, sydd yn cysylltu Ynys Môn â Gwynedd, a mynyddoedd y Carneddau yn Nyffryn Ogwen. Adeiladwyd yr ysgol ym 1968 yng nghanol Stâd Gyngor fawr o'r enw Maesgeirchen ar gyrion Dinas Bangor ac fe'i hagorwyd yn swyddogol ar Dachwedd 20fed, 1968. Yn y cyfnod hwn gwelwyd yr angen i adeiladu ysgol gan fod plant Stâd Maesgeirchen yn gorfod teithio tua dwy filltir bob dydd, gyda bws ysgol, i Ysgol y Garth yn Hirael.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Plant oedd wedi mynychu Ysgolion y Garth, Hirael a'r Santes Fair oedd y disgyblion cyntaf. Roedd y rhan fwyaf o'r disgyblion yn byw ar Stâd Maesgeirchen ond daeth rhai o blant, a oedd yn byw yn Hirael, i'r ysgol hefyd. Plant di-Gymraeg oedd y rhan fwyaf ohonynt a dim ond ambell un oedd yn dod o deulu Cymraeg. Mr J. Haydn Jones, Prifathro Ysgol Garth, oedd Prifathro cyntaf Ysgol Glancegin a bu'n arloesol mewn dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Dechreuodd trwy ddysgu Cymraeg i blant y dosbarth derbyn ac felly, erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, roeddynt yn gwbl ddwyieithog. Dyma'r ysgol gyntaf yn yr hen Sir Gaernarfon i dreialu'r syniad o ddysgu Cymraeg i blant y dosbarth derbyn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhes gefn - o'r chwith i'r dde:
Mr Huw John Hughes, Mrs Margaret Thomas, Mr Elwyn Jones Griffith, Mrs Shirley Evans a Mr Mervyn Williams.
Rhes flaen - o'r chwith i'r dde:
Miss Megan Ellis, Mr J. Haydn Jones a Miss Norah Jones.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ym 1968, pan agorwyd yr ysgol am y tro cyntaf, mynchai 332 o blant yr ysgol a 12 o athrawon, (gweler uchod lun o staff yr Adran Iau) gan gynnwys y Prifathro. Buan iawn y sylweddolwyd fod yr ysgol wreiddiol yn rhy fach ac adeiladwyd dau ddosbarth newydd at yr Adran Iau. Ym mis Ionawr 1975, oherwydd anghenion yr ardal, agorwyd Uned Feithrin a derbyniwyd y plant ar ddechrau'r tymor wedi iddynt gael eu pen blwydd yn 3 oed.
Mabwysiadwyd enw'r ysgol, sef Glancegin, o'r ffaith fod y stâd i gyd wedi ei hadeiladu ar lan yr afon Cegin sy'n llifo o Ffynnon Cegin Arthur, ger Fferm Cae Hop, sydd rhwng Pentir a Phenisarwaen. Mae'r afon yn mynd ar ei thaith i lawr drwy Pentir a Glasinfryn, heibio i Stâd Maesgeirchen ac yn llifo i Afon Menai ym Mhorth Penrhyn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Croeso | Ysgol Glancegin | Gwaith y Plant | Cyflwyno'r Ysgol | Hanes Sefydlu Ysgol Glancegin |
Hanes Sefydlu Maesgeirchen | Bangor a'r Cylch | Tudalen Gartref | English Version
|
|
|
|